...

1. Tri un cyntefig y sydd, ag nis gellir amgen nag un o honynt, Un Duw; Un Gwirionedd; ag Un Pwngc Rhyddyd, sef y bydd lle bo cydbwys pob gwrth.

2. Tri pheth tardd o'r tri Un cyntefig, pob Bywyd; pob Diaoni; a phob Gallu.

3. Odri anghenfod y mae Duw, sef y mwyaf parth bywyd; y mwyaf parth gwybod; a'r mwyaf parth nerth; ag nis gellir namyn un o'r mwyaf ar unpeth.

4. Tri pheth nis dichon Duw lai na bod, a ddylai'r da cyflawn; a ddymunai'r da cyflawn; ag a ddichon y da cyflawn.

5. Tri thystion Duw am a wnaeth ag a wnâ, Gallu anfeidrol; Gwybodaeth anfeidrol; a Chariad anfreidrol; gan nad oes nas dichon, nas gwyr, ag nas mynn y rhain;

6. Tri phendod trefn gwaith Duw, er peri pôb peth; dirymmu'r drwg; nerthu'r da, ag amlygu pob gwahanieth, fal y gwyper a ddylai oddiwrth na dddylai fod.

7. Tri pheth nis gall Duw lai na'u gweuthur, y mwyaf ei les; y mwaf ei eisiau; a'r mwyaf er harddwch o bob peth.

8. Tri chardenyd hanfod, nis gellir amgen; nid rhaid amgen; ag nis gellir gwell gan feddwl; ag yn hynn y diwedd pob peth.

9. Tri pheth dir y byddant; eitha Gallu; eitha deall; ag eitha cariad Duw.

10. Tri bannogion Duw; Bywyd cyfoll, Gwybodaeth cyfoll; a Chadernyd cyfoll.

11. Tri achos bywedigion, craid Duw gan eitha deall cyflawn; Deall Duw yn gwybod eitha moddion; a Neerth Duw gan eitha Mynn Gariad a Deall.

12. Tri chylch hanfod y sydd, Cylch y Ceugant, lle nid oes namyn Duw, na byw na marw, ag nid oes namyn Duw a eill ei dreiglo; Cylch yr Abred, lle pob Ansawdd-hanfod o'r marw, a Dyn ai treiglwys; Cylch y Gwynfyd, lle pob Ansawdd hanfod o'r Byw, a Dyn ai treigla yn y Nef.

Articles les plus consultés